Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am rew ac eira i’r gogledd a’r canolbarth.

Yn ôl y rhybudd, gallai’r amodau fod yn wael i yrwyr ar dir uchel.

Mae’r rhybudd mewn grym yn siroedd Conwy, Dinbych, Fflint, Gwynedd, Powys a Wrecsam.

Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 9 o’r gloch heno (nos Sadwrn, Rhagfyr 14) ac 11 o’r gloch bore fory (dydd Sul, Rhagfyr 15).