Mi wnaeth bron i 1,000 o bobl ddod ynghyd yng Nghaerdydd i brotestio yn erbyn toriadau’r llywodraeth a’r effaith maen nhw’n ei gael ar yr anabl. Roedd protestiadau mewn nifer o ddinasoedd eraill ar draws Prydain, ond roedd mwy o bobl wedi dod i’r protest yng Nghaerdydd nag yn unman arall.

Mae’r protestiadau wedi eu trefnu gan yr ymgyrch Hardest Hit sy’n pryderu am newidiadau mewn budd-daliadau, a thoriadau mewn gwasanaethau lleol.

Dywedodd Jaspal Dhani, cyd-gadeirydd Hardest Hit, sy’n glymblaid o nifer o elusennau a chymdeithasau ar gyfer yr anabl, fod y llywodraeth yn San Steffan wedi torri ar ei addewid i amddiffyn pobl anabl rhag y toriadau mewn gwario.

“Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi gweld rhes o doriadau sydd wedi taro pobl anabl galetaf, o newidiadau mewn budd-daliadau i awdurdodau lleol yn torri cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol ac yn cael gwared ar docynnau mantais bws.

“All pobl anabl ddim gael eu gwasgu yn fwy na hyn, dyna pam fod gymaint ohonon ni yn ymuno â’r protestiadau ar draws y wlad ac ar-lein,” meddai.

Meddai llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau, “Mae’r llywodraeth yma wedi ymrwymo i gefnogi pobl anabl, ac rydym yn parhau i wario mwy na £40 biliwn y flwyddyn ar bobl anabl a’u gwasanaethau.”