Roedd enillydd medal aur Olympaidd o’r Unol Daleithiau ymhlith y rhai a gafodd eu hanafu mewn gwrthdrawiad bws yn Abertawe ddydd Iau (Rhagfyr 12).

Roedd Kevin Young yn un o wyth o bobol a gafodd eu hanafu wrth i’r bws daro pont isel ar ei ffordd i’r brifysgol.

Mae’r Americanwr yn ddeilydd record byd yn y 400m dros y clwydi yn dilyn buddugoliaeth yng Ngemau Olympaidd Barcelona yn 1992.

Fe orfennodd e’r ras mewn 46.78 eiliad ac mae’n dal y record o hyd.

Cafodd e anafiadau i’w ben ac fe wnaeth e dorri nifer o asennau.

Mae’n astudio ar gyfer gradd Meistr mewn moeseg a gonestrwydd chwaraeon fel rhan o gynllun Erasmus Mundus i fyfyrwyr o wledydd tramor.

Fel rhan o’r cwrs, mae e a saith athletwr Olympaidd arall mewn nifer o brifysgolion Ewropeaidd yn dysgu am fetio anghyfreithlon, amddiffyn plant a throseddau cyffuriau.

Y gwrthdrawiad

Cafodd dynes anafiadau difrifol sy’n peryglu ei bywyd, ac mae’n dal mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Cafodd dau o bobol eraill eu hanafu’n ddifrifol, ond maen nhw wedi cael mynd adref erbyn hyn.

Cafodd pump o bobol eu cludo i Ysbyty Treforys, ac fe gafodd un ohonyn nhw anafiadau difrifol i’w phen.

Cafodd un arall anafiadau difrifol i’r frest a’r wyneb.

Cafodd tri dyn arall anafiadau llai difrifol.

Mae’r pump mewn cyflwr sefydlog, meddai’r bwrdd iechydl

Cafodd dyn 63 oed ei arestio a’i ryddhau dan ymchwiliad, ac mae cwmni First Cymru’n cynnal ymchwiliad.

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am dystion.