Mae Gareth yr epa yn cyhoeddi ei sengl ddiweddara’ tros y penwythnos.

Fe gafodd un o wynebau amlycaf gwasanaeth Hansh S4C lwyddiant mawr gyda’i gân ‘Mŵfs fel Dafydd Iwan’ ym mis Mai eleni.

Enw’r gân newydd yw ‘Siôn Corn’ ac fe fydd fideo’r gân i’w weld ddydd Sul.

Mae Gareth wedi dweud wrth golwg360 iddo gael hwyl garw ar greu ei gân ddiweddara’.

“Does yna neb byth am sgwennu cân am Siôn Corn eto achos dw i wedi nailio fo a does yna ddim pwynt i neb arall drio,” meddai’r cyflwynydd blewog sinsir.

Ac mae Gareth yn hollol bendant y bydd ‘Siôn Corn’ yn ailadrodd camp ‘Mŵfs fel Dafydd Iwan’ a dod yn ffefryn ymysg ieuenctid y genedl.

“Mae hon yn certified, bona fide bangar ac mae’n mynd i newid y byd cerddorol a’r byd yn gyffredinol, er gwell ac mae hi siŵr braidd y gân orau sydd erioed wedi cal ei sgwennu.

“Peidiwch â disgwyl gormod tho’!”

Fe gafodd Gareth amser da yn ffilmio’r fideo gyda Siôn Corn.

 “Roedd hi’n bleser gweithio hefo fo ac rydan ni’n gobeithio gallu gweithio hefo’n gilydd eto rywbryd yn y dyfodol. Rydan ni wrthi’n trafod efalla pitcho syniad i S4C amdana ni’n dreifio rownd gwinllannoedd Cymru yn trio gwin Cymraeg… ond dw i ddim yn licio gwin so gawn ni weld.”

Dolig di-Dwrci i Gareth

Roedd golwg360 am wybod sut Ddolig maen nhw yn fwynhau draw yn nhŷ Gareth…

“Rydan ni’n cychwyn yn reit gynnar ond ddim yn cyffwrdd spirits tan y nos. Lot o bresanta, naps a teledu.

“Ers mynd ar brofiad gwaith ar fferm dw i’n sort of vegetarian felly hwn fydd Dolig cynta fi heb dwrci, neu ‘chickin Dolig’ fel mae Mam yn galw fo.

“Felly fydd hwn yn Ddolig gwahanol iawn i’r arfer. Mae Yncl Raymond allan o carchar hefyd, felly mae yna jans ga i bresanta drud, ond mae o bob tro’n rhwystredig tynnu’r security tags.

“Os fyswn i’n cael unrhyw anrheg, fyswn i’n gofyn i bawb fod yn ffeind efo’i gilydd ac edrych ar ôl rhai llai ffodus. Neu ceffyl du o’r enw Bourbons.”

Heddiw mae Hansh wedi trydar am gân newydd Gareth…