Mae Paul Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yn dweud bod buddugoliaeth y blaid yn San Steffan yn dangos bod pobol Cymru “eisiau i ni gwblhau Brexit”.

Mae Boris Johnson wedi sicrhau’r mwyafrif sydd yn rhoi mandad iddo fwrw ymlaen â Brexit yn y gobaith o adael erbyn Ionawr 31.

Yn ôl Paul Davies, mae’r canlyniad yn golygu bod blynyddoedd o ansicrwydd ynghylch ymadawiad Prydain o’r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben.

“Rwy wrth fy modd fod pobol Prydain a gweddill y Deyrnas Unedig wedi sicrhau mwyafrif i’n Prif Weinidog gael bwrw ymlaen â chyflawni Brexit – gan ddod ag ansicrwydd i ben ar ôl bron i bedair blynedd, a rhoi eglurder i fusnesau a’r Undeb Ewropeaidd y bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd Ionawr.

“Mae Boris Johnson wedi cyflawni ar ein rhan ni o’r blaen, ac fe fydd e’n cyflawni ar ein rhan ni eto, gan sicrhau cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd erbyn diwedd 2020, gan ddod ag ansicrwydd Brexit heb gytundeb i ben.”

Aelodau seneddol newydd yng Nghymru

Mae Paul Davies yn dweud bod canlyniadau’r blaid yng Nghymru’n sicrhau y bydd ganddi lais clir yn San Steffan.

“Ar ôl ennill seddi fel Delyn a De Clwyd, rydyn ni wedi efelychu’r nifer fwyaf o aelodau seneddol Ceidwadwyr Cymreig yn San Steffan, i helpu i sicrhau bod llais clir Cymru’n cael ei glywed yn uchel ac yn glir yn y senedd.

“Mae’n amlwg o ennill Pen-y-bont ac Ynys Môn, sydd wedi bod heb aelod seneddol Ceidwadol ers 32 o flynyddoedd, fod pobol Cymru eisiau cwblhau Brexit a dyna fyddwn ni’n ei wneud.”

Mae’n dweud ei fod e’n croesawu Sarah Atherton, Virginia Crosbie a Fay Jones, tair aelod seneddol fenywaidd gynta’r blaid yng Nghymru.

“Rwy’n gwybod y bydd yr aelodau seneddol newydd yn gweithio’n galed dros eu hetholwyr, eu cymunedau a’u gwlad,” meddai.