Mae Mark Drakeford yn dweud bod y Blaid Lafur wedi cael “noson siomedig dros ben” yng Nghymru.

Mae’r blaid wedi colli chwe sedd i’r Ceidwadwyr, ond mae’n dweud ei fod e wedi disgwyl y bydden nhw wedi cadw hanner eu seddi.

Fe gollon nhw Ynys Môn, Delyn, Dyffryn Clwyd, De Clwyd, Pen-y-bont a Wrecsam.

Fel yng ngweddill Prydain, mae’n ymddangos bod polisi Brexit Llafur wedi cael effaith ar eu perfformiad.

“Mae’n ergyd drom, yn enwedig yng ngogledd Cymru,” meddai.

Mae’n dweud fod gan Lafur waith i’w wneud ac y byddai’n rhaid iddyn nhw “feddwl yn galed” ynghylch sut i adennill y seddi sydd wedi’u colli i’r Ceidwadwyr.