Mae myfyriwr ac ymgyrchydd ar ran Plaid Cymru ym Mhrifysgol Abertawe’n dweud ei fod e wedi cael ei “dargedu” a’i “drin yn annheg” gan swyddog diogelwch wrth ymgyrchu ar y campws.
Yn ôl Ioan Warlow, aelod o Gymdeithas Plaid Cymru yn y brifysgol, roedd e wedi’i atal rhag dosbarthu taflenni ar y campws ar ran Gwyn Williams, ymgeisydd seneddol y Blaid yng Ngorllewin Abertawe.
Mae’n dweud ei fod e wedi cael caniatâd y brifysgol, pennaeth yr adran ddiogelwch ac Undeb y Myfyrwyr, ond fod y swyddog diogelwch “wedi cymryd arno’i hun” i fygwth ei “daflu oddi ar y campws”.
‘Targedu’
“Fe wnes i siarad â nifer o bobol yn Undeb y Myfyrwyr, ac fe ddywedon nhw y byddai’n iawn [i gael caniatâd],” meddai wrth golwg360.
“Fe wnes i gynnig dangos y taflenni iddyn nhw rhag ofn eu bod nhw am eu gwirio nhw – nid fy nhaflenni i oedden nhw, fe wnes i eu cael nhw gan bencadlys y Blaid.
“Wnes i ddim meddwl y byddwn i’n cael trafferth oherwydd bod nifer o bleidiau eraill wedi bod yn dosbarthu taflenni ar y campws.
“Daeth un swyddog diogelwch arall ata’i i ofyn os oedd gyda fi ganiatâd ac fe wnes i gadarnhau bod gen i ganiatâd, ac roedd e’n hollol iawn am y peth.
“Es i y tu allan i’r llyfrgell i ddosbarthu taflenni am awr fach arall ac fe es i i mewn gan fy mod i bron â rhedeg allan o daflenni.
“Do’n i ddim yn ymgyrchu erbyn hyn, ond fe ddaeth [y swyddog diogelwch cyntaf] ata’i a dweud, ‘os wyt ti’n parhau a bod rhaid i fi siarad gyda ti eto, bydd rhaid i fi dy daflu di oddi ar y campws’.”
“Fe wnes i drio egluro bod gyda fi ganiatâd ond doedd e ddim yn talu sylw, ac yn anwybyddu’n llwyr y ffaith fod gyda fi ganiatâd.
“Roedd e’n haerllug ac yn fygythiol.
“Do’n i ddim yn teimlo bod angen iddo fe ddweud y byddai’n fy nhaflu oddi ar y campws. Fe ddywedodd fod yr hyn ro’n i’n ei wneud yn annerbyniol a’i fod e wedi derbyn cwyn, ond wnaeth e ddim dweud gan bwy.
“Wnaeth e jyst ddechrau gweiddi nad oedd ots ganddo fe a bod rhaid i fi fynd.”
‘Un dyn bach yn fy nhargedu’
Yn ôl Ioan Warlow, mae’r ffaith fod nifer o adrannau’n fodlon iddo ymgyrchu, ond nid yr un swyddog diogelwch dan sylw, yn awgrymu ei fod e wedi cael ei “dargedu yn annheg gan unigolyn”.
“Mae’n gwneud i fi gredu mai ceisio gweld bai arna’i oedd yr un swyddog diogelwch hwn, yn hytrach na’r Brifysgol neu’r Adran Ddiogelwch gyfan,” meddai wedyn.
“Dw i’n teimlo fy mod i wedi cael fy nhargedu.
“Wnes i ddweud wrtho fe fod y Blaid Sosialaidd yma’r wythnos ddiwethaf, ond dywedodd e ‘do’n i ddim yn gweithio’r wythnos ddiwethaf.’
“Ro’n i jyst yn meddwl, os mai fe yn unig oedd yn ffwdanu a neb arall o’r swyddogion diogelwch, yna mae hynny’n ei wneud yn fwy annheg eto.”
Mae’n dweud ei fod e wedi codi’r mater gyda phencadlys Plaid Cymru a Leanne Wood fel “un sy’n siarad yn gyson dros ryddid barn”.
Ymateb y Brifysgol
Wrth ymateb, mae llefarydd ar ran Prifysgol Abertawe’n dweud fod y sefydliad “yn croesawu ymgyrchwyr o bob plaid wleidyddol”.
“Siaradodd aelod o’n tîm diogelwch â’r myfyriwr, a gofynnwyd i’r myfyriwr gyflwyno’r dystiolaeth ysgrifenedig angenrheidiol fod ganddo ganiatâd i ymgyrchu ar y campws, a hynny gan Undeb y Myfyrwyr a thîm ystadau’r Brifysgol,” meddai’r llefarydd wrth golwg360.
“Nid oedd y myfyriwr yn gallu darparu’r cadarnhad ysgrifenedig, felly gofynnodd y swyddog diogelwch i’r myfyriwr roi’r gorau i ymgyrchu nes bod caniatâd wedi’i roi – ac fe’i rhoddwyd yn ddiweddarach.
“Mae’r Brifysgol yn croesawu ymgyrchwyr o bob plaid wleidyddol.”