Mae’r Swyddfa Dywydd yn rhybuddio y gallai gwyntoedd cryfion gyrraedd cyflymdra o 70 milltir yr awr ar hyd arfordir Cymru.

Maen nhw’n rhybuddio pobol i sicrhau bod eu haddurniadau Nadolig yn ddiogel rhag iddyn nhw gwympo.

Bydd y rhybudd melyn mewn grym rhwng 3 o’r gloch heddiw (dydd Sul, Rhagfyr 8) a 9 o’r gloch bore fory (dydd Llun, Rhagfyr 9).

Maer tywydd yn debygol o achosi oedi i deithwyr, a gallai rhai pobol golli eu cyflenwadau trydan.