Mae Plaid Cymru’n galw ar ei holl aelodau yn y gogledd i ddod i helpu ei hymgyrchoedd yn etholaethau Arfon ac Ynys Môn dros y dyddiau nesaf.

Daw hyn wrth i arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn baratoi i ymweld â Bangor yfory, ac yn ôl Plaid Cymru, mae Llafur yn anfon “bysiau o gefnogwyr Momentum o Lerpwl i Gaernarfon a Bangor”.

Gobaith Plaid Cymru yw cipio Ynys Môn, etholaeth a gafodd ei dal ganddi gan Ieuan Wyn Jones rhwng 1987 a 2001, oddi ar Lafur, wrth i’r Aelod Seneddol Albert Owen roi’r gorau iddi. Mae arolygon yn awgrymu y gall fod yn frwydr agos rhwng Plaid Cymru, Llafur a’r Torïaid yno.

Mae hefyd yn benderfynol o ddal ei gafael ar Arfon, sy’n sedd hynod ymylol, ar ôl i Hywel Williams ei chadw o 92 pleidlais yn unig yn 2017. Er bod Plaid Cymru wedi ennill pob etholiad yma, i San Steffan a’r Cynulliad, ers ei ffurfio yn 2007, mae’r sedd wedi golygu mwy o her iddi na’i hen gadarnle, etholaeth Caernarfon.

Mewn neges at yr holl aelodau, mae Plaid Cymru’n ganolog yn apelio ar ei chefnogwyr yn y gogledd i ystyried cymryd diwrnod neu ddau’n rhydd o’r gwaith i helpu yn un o’r ddwy etholaeth. Maen nhw hefyd yn apelio ar ei haelodau yn y de-ddwyrain i helpu trwy ffonio etholwyr.

Mewn arwydd clir bod Plaid Cymru’n disgwyl canlyniadau agos yn y ddwy etholaeth, dywed y neges fod “popeth yn y fantol”, ac mai “dyma’r amser i bawb sydd am amddiffyn Cymru weithredu”.

Fe fu’r arweinydd, Adam Price, hefyd yn ymgyrchu yn y ddwy etholaeth ddoe.