Mae car dynes o Geredigion wedi cael ei gymryd gan feilïaid wedi iddi wrthod talu dirwy a gafodd am ei rhan yn yr ymgyrch i ennill pwerau darlledu i Gymru.

Cafodd Eiris Llywelyn, 69, o Ffostrasol ei dyfarnu’n euog o wrthod talu ei ffi drwydded deledu a chael cosb llys o £220 ar Ebrill 3 eleni. Hi oedd y trydydd unigolyn i fynd gerbron achos llys am wrthod talu’r ffi drwydded deledu fel rhan o’r ymgyrch i ddatganoli pwerau darlledu i Gymru, ond y cyntaf i ddatgan nad yw’n mynd i dalu cosb ariannol llys.

“Dw i’n bwriadu parhau i beidio â thalu a dw i’n fodlon wynebu’r canlyniadau,” meddai Eiris Llywelyn.

“Mae’r beilïaid wedi galw ac wedi mynd â’r car ond dw i ddim yn mynd i ildio. Dw i’n fodlon mynd â’r brotest i’r pen er mwyn tynnu sylw at fater sydd o bwys aruthrol i’n cenedl. Byddai datganoli’r pwerau cyfathrebu a darlledu hyn er lles democratiaeth Cymru, yn ogystal â’r Gymraeg.

“Mae diffyg cynnwys Cymreig a Chymraeg ar y cyfryngau yn bygwth parhad hunanlywodraeth yng Nghymru, ac mae’n rhaid mynd i’r afael â’r mater.”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud bod pwerau darlledu i Gymru yn hanfodol er mwyn cynnal democratiaeth Gymreig a’r Gymraeg. Yn ôl arolwg barn, mae llai na hanner poblogaeth Cymru yn gwybod bod y cyfrifoldeb dros iechyd wedi ei ddatganoli i’r Senedd yng Nghaerdydd.