Mae Ben Lake, ymgeisydd seneddol Plaid Cymru yng Ngheredigion, yn cefnogi ymgyrch amgylcheddol i ostwng nwyon tŷ gwydr.

Mae Cyfeillion y Ddaear yn galw ar wleidyddion i gefnogi mesurau i ostwng lefelau’r nwyon ac i adeiladu cymdeithas fwy gwyrdd.

Mae Plaid Cymru eisoes yn addo mynd i’r afael â newid hinsawdd fel rhan o’u haddewidion etholiadol ar drothwy’r etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Mae eu polisïau’n cynnwys arwain Chwyldro Swyddi Gwyrdd er mwyn i Gymru fod yn hollol hunangynhaliol gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy erbyn 2030.

‘Her ddiffiniol ein hoes’

“Mae Plaid Cymru yn deall mai newid hinsawdd, ynghyd â dirywiad bioamrywiaeth byd-eang, yw her ddiffiniol ein hoes,” meddai Ben Lake.

“Dros y ddwy flynedd a hanner ddiwethaf fel yr Aelod Seneddol dros Geredigion, roeddwn yn falch iawn o fy record wrth herio Llywodraeth y DU ar ei pholisïau hinsawdd ac amgylcheddol, ynghyd â gwthio am fesurau fyddai’n dadgarboneiddio’r economi.

“Cefnogais alwadau yn y Senedd i ddatgan ein bod mewn ‘Argyfwng Hinsawdd ’, a bu i mi wrthwynebu’n llwyddiannus yr arolwg seismig ym Mae Ceredigion ynghyd â chydweithio gyda gwleidyddion trawsbleidiol yn Nhŷ’r Cyffredin i hyrwyddo deddfwriaeth ar blastig. 

“Pe bawn i’n ddigon ffodus i gael fy ailethol, byddwn yn parhau i gefnogi ymdrechion i weithredu ar frys wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd – cyn ei bod hi’n rhy hwyr.”