Mae hysbyseb Nadoligaidd siop annibynnol yn Rhaeadr oedd wedi costio £100 i’w gynhyrchu wedi cael ei wylio ddegau o filoedd o weithiau ar YouTube.

Aeth Thomas Lewis Jones ati i greu hysbyseb gyda chymorth ei deulu, ac mae’n serennu ei fab Arthur yn helpu cwsmeriaid ac yn addurno’r siop.

Ar ddiwedd yr hysbyseb, mae cwsmeriaid yn cael eu hannog i “fod yn blentyn y Nadolig hwn”, wrth i’r mab gael ei droi i mewn i’w dad.

Dyma drydydd hysbyseb Nadolig y cwmni, a phob un yn serennu Arthur.

“Mae wedi bod yn wallgo’,” meddai Thomas Lewis Jones.

“Rydyn ni wedi cael ein gorlwytho â negeseuon e-bost hyfryd o bob cwr o’r byd.

“Yr unig beth roedd rhaid i ni dalu amdano oedd cael ein canwr i mewn i’r stiwdio gerdd a thalu’r peiriannydd sain.

“Mae pawb welwch chi yn y fideo’n deulu, mae pedair cenhedlaeth yn ymddangos yn y fideo a chafodd ei chreu gyda chymorth fy ffrind gorau Josh Holdaway, sy’n wneuthurwr ffilmiau.”

Siopa’n lleol

Yn ôl Thomas Lewis Jones, nod yr hysbyseb yw annog pobol i siopa’n lleol dros y Nadolig.

“Y neges sylfaenol yw fod busnesau bach annibynnol yn gallu cynnig cymaint â’r siopau cadwyn ar y stryd fawr.

“Ceisiwch siopa’n lleol dros y Nadolig os allwch chi.”