Y Cynghorydd Bob Parry
Mae Cynghorydd o Fôn wedi beirniadu Llywydd Plaid Cymru, gan ddweud bod ei chyfraniad i gynhadledd wrth-niwclear dros y penwythnos yn “digalonni” aelodau o’r Blaid sydd wedi pleidleisio dros gael ynni niwclear ar yr ynys.

“Petai Plaid Cymru yn dweud nad ydyn ni eisiau Wylfa ar Ynys Môn – yna mi fasa’r Blaid yn cael ei dinistrio yn Ynys Môn yn gyfan gwbl,” meddai’r Cynghorydd Bob Parry wrth Golwg360.

Yn ôl un o hoelion wyth y Blaid ym Môn mae cyfraniad Jill Evans ASE i gynhadledd ‘Cymru Werdd Ddi-Niwclear’ yn Galeri Caernarfon yfory yn “gamarweiniol”, oherwydd bod Plaid Cymru yn cefnogi cael ail atomfa niwclear ar yr ynys.

“Yn y gynhadledd Plaid yn Llandudno eleni, mi bleidleisiwyd i Ynys Môn i gadw ymlaen i gael diwydiant niwclear. Mae’n gwneud i’r rhai sydd yn y Blaid ddigalonni bod ein Llywydd ni yn siarad yn erbyn Ynys Môn,” meddai Cynghorydd Ward Trewalchmai wrth Golwg360.

Roedd yn cydnabod bod “gwrthddweud o fewn y Blaid” ar ynni niwclear, a bod hyn yn ei dro yn gwneud “dim daioni o gwbl o ran aelodau newydd” i Blaid Cymru. 

Fe ddylai’r Llywydd “fod gydag Ynys Môn – yn enwedig gan fod cynghorwyr wedi ennill y bleidlais yn y gynhadledd eleni,” meddai.   “Ro’ ni’n disgwyl i’r Llywydd gefnogi’r Blaid ar Ynys Môn,” ychwanegodd Bob Parry, a fydd yn sefyll etholiad ar gyfer y cyngor sir fis Mai nesaf.

‘Dim angen ynni niwclear’

Mae disgwyl i Lywydd Plaid Cymru ddweud wrth y gynhadledd wrth-Niwclear yfory ei bod yn “gwbl argyhoeddedig nad oes angen ynni niwclear”,  a chyda’r un buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy  “gall Cymru arwain y ffordd.”

 “Mi fydd y cyfarfod yma’n gyfle i ni drafod polisïau ynni Cymru,”  meddai Jill Evans wrth Golwg360 echdoe.

“Rwyf wedi ymgyrchu yn erbyn ynni niwclear ers degawdau, ac rwy’n gwbl argyhoeddedig nad oes ei angen.

“Mae ynni niwclear yn beryglus, yn ddrud a dylai fe ddim chwarae rhan mewn unrhyw bolisi cynaliadwy” meddai.“Gyda’r un buddsoddiad mewn ynni adnewyddadwy a chadwraeth ynni ag sydd mewn niwclear, gall Cymru arwain y ffordd”. 

Niwclear – ‘Mor saff â ddim byd arall’

Ond yn ôl Bob Parry mae “wir angen gwaith” a swyddi a ddaw yn sgil adeiladu ail atomfa niwclear Wylfa B ar Ynys Môn, sy’n un o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig Ynysoedd Prydain.

“Mae’r diwydiant  niwclear yn Sir Fôn mor saff â dim byd arall oherwydd  does yna erioed ddamwain wedi bod yn y Wylfa, mae eu record nhw’n gampus,” meddai Bob Parry.

“Y dewis ydi – ydach chi eisiau golau ta ydach chi’n fodlon i’r wlad fynd i dywyllwch? Dyma fydd yn digwydd os na gawn ni o – fydd y cyflawniad trydan yn mynd allan. Bydd hyn yn golygu mwy o broblemau i’r diwydiant ac wrth gwrs bydd economi’r wlad yn mynd i lawr. Mae’n rhaid i ni gael diwydiant niwclear yn y wlad yma neu bydd ganddo ni ddim goleuni.”

Ychwanegodd bod yna “wrthwynebiad mawr” i felinau gwynt yn codi yn Sir Fôn ar hyn o bryd. “Mae’n edrych yn debyg  bod pobl yn dymuno mynd i fyw yn yr oes o’r blaen  – yn y tywyllwch,” meddai.  

Mae’n dadlau’n gryf y bydd Wylfa B yn sicrhau “dyfodol disglair i bobl ifanc ar yr ynys. 

“Petai Plaid Cymru yn dweud nad ydyn ni eisiau Wylfa ar Ynys Môn – yna mi fasa’r Blaid yn cael ei dinistrio yn Ynys Môn yn gyfan gwbl,” rhybuddiodd, gan ychwanegu ei fod yn grediniol – petai refferendwm drwy Gymru yn cael ei gynnal ar y mater –  “mi fasa’r mwyafrif o bobl yn pleidleisio i gadw’r diwydiant niwclear”.