Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi enw’r dyn a fu farw yng ngwrthdrawiad traffig ffordd angheuol ar yr A55 yn Llaneurgain.

Roedd James Joseph Agar-Leigh yn athro dawns 36 oed ac yn dod o ardal y Rhyl.

Cyhoeddodd Heddlu’r Gogledd bod y dyn wedi marw ar ôl i’w gar wyro oddi ar yr A55 yn Sir y Fflint nos Sul, tua 7yh.

Mae Christopher Agar-Leigh wedi cyhoeddi’r deyrnged i’w ŵr.

“Neithiwr aeth fy nghymar at yr angylion. Fo oedd fy mywyd a fy myd ac mae fy nghalon yn torri fwy na allwch chi byth ddychmygu. Fo oedd y mab, gŵr, brawd, nai a’r ŵyr gorau a bydd colled fawr ar ei ôl gan bawb a oedd yn ei garu.

“Rwy’n dy garu di gymaint mae fy nghalon wedi torri ac mae’n brifo gymaint.

“Ti oedd y peth gorau i ddigwydd i mi yn fy mywyd ac mi fyddai’n dy garu fwy na dim byd arall yn y byd am byth.”

Mae’r heddlu’n parhau i apelio am dystion i’r gwrthdrawiad un cerbyd Vauxhall Vectra tua 7yh a oedd yn teithio i gyfeiriad y gorllewin ar yr A55 yn Llaneurgain.