Mae Gweinidog Addysg Cymru Kirsty Williams wedi disgrifio canlyniadau profion PISA Cymru yn “gadarnhaol, ond nid perffaith”.

Roedd Cymru’n un o 79 o wledydd a wnaeth gymryd rhan yng nghylch diweddaraf PISA, a gynhelir gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).

Cynyddodd nifer y myfyrwyr sy’n perfformio i lefel uchel mewn Darllen o 3% yn 2015 i 7% yn 2018, a gwelwyd cynnydd tebyg mewn Mathemateg a chynnydd mewn Gwyddoniaeth hefyd.

Yn ogystal, gwelwyd gwelliant yn safle Cymru o gymharu â’r gwledydd eraill a gymerodd ran.

Cafodd Cymru’r un sgôr a’r Eidal, ac yn uwch na’r Unol Daliaethau, Luxenbourg, Lithwania a Hwngari.

“Am y tro cyntaf erioed mae Cymru’n rhan o’r brif ffrwd ryngwladol, diolch i ymdrechion ein hathrawon a’n myfyrwyr,” meddau Kirsty Williams.

“Rydym wedi dal i fyny, ac yn dal i wella ym mhob maes. Fel cenedl, rhaid i ni ymdrechu’n galed i gadw’r momentwm hwn. Gallwn fynd ymhellach.”