Bydd dyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau lleol Cymru i ddarparu llety i bobol sy’n fwriadol ddigartref dan reolau newydd sy’n dod i rym heddiw (Dydd Llun, Rhagfyr 2).

Dan y Ddeddf Tai (Cymru) 2014, mae mesurau diogelu ychwanegol wedi cael eu rhoi yn eu lle i rai aelwydydd lle mae’r trigolion yn agored i niwed, gan gynnwys rhai â menywod beichiog, plant a rhai pobol ifanc.

Y bwriad yw sicrhau bod rhai o’r dinasyddion sy’n fwyaf agored i niwed yn cael cymorth ychwanegol i ddod o hyd i lety priodol.

Mae hyn yn cyd-fynd ag ymrwymiad Gweinidogion Llywodraeth Cymru i roi sylw i’r egwyddorion sydd wedi’u hymgorffori yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

“Mesurau diogelu ychwanegol”

Dywed y Gweinidog Tai, Julie James bod atal digartrefedd “yn flaenoriaeth” i Lywodraeth Cymru.

“Dros y 5 mlynedd ddiwethaf, rydyn ni wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer y bobol bwriadol ddigartref. Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos mai ychydig dros 200 o bobol oedd yn fwriadol ddigartref y flwyddyn ddiwethaf.

“Bydd gan rai o’r aelwydydd hyn aelodau ifanc ac agored i niwed, a bydd cychwyn y darpariaethau newydd heddiw yn cynnig mesurau diogelu ychwanegol iddynt.

“Bydd hefyd yn helpu i sicrhau bod rhai o’n dinasyddion sydd fwyaf agored i niwed yn cael y cymorth ychwanegol y gallai fod ei angen arnynt i’w helpu i ddod o hyd i lety priodol a chadw’r llety hwnnw.”