Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth yn dilyn bwrgleriaeth yng nghartref dynes 89 oed yn Aberdaugleddau.

Chafodd hi mo’i hanafu ond fe wnaeth unigolyn wthio’i ffordd i mewn i’w hystafell wely, ei dihuno a mynnu swm o arian.

Cafodd oddeutu £20 a cherdyn banc eu dwyn.

Mae’r unigolyn yn cael ei ddisgrifio fel person tal, tua 5’10”, a thenau.

Dydy hi ddim yn glir ai dyn neu ddynes oedd yn gyfrifol, am fod yr unigolyn yn gwisgo sgarff yn gorchuddio’i wyneb.

Roedd hefyd yn gwisgo siaced lwyd ac yn cario bag cefn.

Mae’r heddlu’n rhybuddio pobol yn yr ardal i gloi drysau a ffenestri.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Dyfed-Powys ar 101.