Mae tîm pêl-droed Cymru wedi cael gwybod pwy fyddan nhw’n herio yng nghystadleuaeth Ewro 2020 haf nesaf.

Byddan nhw yng ngrŵp A gyda’r Swistir, Twrci a’r Eidal, ac yn chwarae yn Baku a Rhufain.

Cafodd yr enwau eu tynnu o’r het yn Bucharest.

Y gemau

Bydd tîm Ryan Giggs yn dechrau yn erbyn y Swistir yn Baku ar Fehefin 13.

Bedwar diwrnod yn ddiweddarach, byddan nhw’n herio Twrci yn yr un lleoliad.

Y tro diwethaf i Gymru herio Twrci, enillon nhw o 6-4 yn y gemau rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 1998, wrth i Hakan Sukur sgorio pedair gôl.

Roedden nhw’n fuddugol y tro diwethaf iddyn nhw wynebu’r Swistir hefyd, o 2-0 mewn gêm ragbrofol ar gyfer Ewro 2012 ym mis Hydref 2011, wrth i Aaron Ramsey a Gareth Bale sgorio.

Bydd eu gemau grŵp yn dod i ben gyda gornest yn erbyn yr Eidal yn Rhufain ar Fehefin 21.

Y grwpiau’n llawn

Grŵp A: Yr Eidal, Y Swistir, Twrci, CYMRU

Grŵp B: Gwlad Belg, Rwsia, Denmarc, Y Ffindir

Grŵp C: Yr Wcráin, Yr Iseldiroedd, Awstria, Gêm ail gyfle A/D

Grŵp D: Lloegr, Croatia, Gweriniaeth Tsiec, Gêm ail gyfle C

Grŵp E: Sbaen, Gwlad Pwyl, Sweden, Gêm ail gyfle B

Grŵp F: Yr Almaen, Ffrainc, Portiwgal, Gêm ail gyfle A/D