Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i dân bwriadol mewn eiddo yn Aberdaugleddau.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw am oddeutu 2.10 fore heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 30).

Mae dyn 36 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o gynnau tân bwriadol gyda’r bwriad o beryglu bywyd, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Chafodd neb ei anafu yn y digwyddiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.