Mae ‘Gât Gatland’ wedi cael ei hagor yn Stadiwm Principality ar drothwy’r gêm i ffarwelio â chyn-brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, Warren Gatland heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 30).

Bydd tîm y Barbariaid o dan ei arweiniad yn herio Cymru yng ngêm gyntaf Wayne Pivac wrth y llyw, gyda’r gic gyntaf yng Nghaerdydd am 2.45yp.

Mae’r llwybr ger Gât 4 yn cludo’r chwaraewyr ac enwogion i mewn i’r stadiwm.

Yn ystod 12 mlynedd Warren Gatland wrth y llyw, enillodd Cymru y Gamp Lawn dair gwaith yn 2008, 2012 a 2019.

Cyrhaeddon nhw rownd gyn-derfynol Cwpan Rygbi’r Byd ddwy waith, yn 2011 a 2019 ac fe gyrhaeddon nhw frig y rhestr detholion am y tro cyntaf eleni.

Fe hefyd yw’r prif hyfforddwr sydd wedi para hiraf yn y swydd, a dim ond tîm y 1910au a’r 1970au sydd wedi bod yr un mor llwyddiannus.

Teyrngedau

“Mae hon yn deyrnged fach i ddangos ein gwerthfawrogiad i Warren, yn arwydd o’r parch mawr sydd gyda ni tuag ato fe yn y byd rygbi yng Nghymru,” meddai Martyn Phillips, prif weithredwr Undeb Rygbi Cymru.

“Bydd e bob amser yn cael ei gofio fel yr hyfforddwr â ddaeth â hatric o Gampau Llawn adref ond y tu hwnt i’r tlysau, fe wnaeth e hefyd ail-sefydlu ein tîm Cymru fel un o brif dimau’r gêm ar draws y byd.

“Mae e wedi adfywio lefel o falchder a pharchusrwydd i’n camp genedlaethol nad ydyn ni wedi’i deimlo ers i bobol fel Clive Rowlands a John Dawes gael eu hoes aur eu hunain 40 mlynedd a mwy yn ôl.”

‘Lle arbennig iawn’

“Bydd yr adeilad hwn bob amser yn lle arbennig iawn i fi,” meddai Warren Gatland.

“Mae’n dwyn i gof lu o atgofion hyfryd a dyma’r lleoliad ar gyfer rhai o’m diwrnodau gorau yn y byd rygbi.

“Mae’n ymgorffori’r holl emosiwn sy’n mynd gydag ennill gemau mawr, ond hefyd y gwaith caled, yr ymroddiad a’r angerdd gan bawb ar bob lefel o’r chwaraewyr i’r staff a’m teulu fy hun a’r cefnogwyr eu hunain.”

Wayne Pivac fydd prif hyfforddwr rhif 23 Cymru.

David Nash oedd y cyntaf yn 1967.