Mae banc bwyd yng Ngwynedd yn apelio ar y cyhoedd i gyfrannu at Galendr Adfent “gwahanol” er mwyn mynd i’r afael â thlodi.

Mae Banc Bwyd Arfon eisiau i bobol droi’r syniad o Galendr Adfent arferol ar ei ben, ac yn gofyn i’r cyhoedd roi un eitem o’r neilltu bob dydd er mwyn ei gyflwyno i fanc bwyd lleol.

Cyfrannu bwyd neu eitem golchi sydd orau, yn ôl y trefnwyr, ac mi fydd yna gyfle i roi’r eitemau sydd wedi eu casglu at yr achos yn ystod Ffair Nadolig yr Ŵyl Fwyd yng Nghaernarfon ar Ragfyr 7, neu sioaeu Dawns i Bawb yn Galeri Caernarfon ar yr un dyddiad.

“Gallwch gyfrannu bwyd mewn amryw o siopau yng Nghaernarfon,” meddai Lowri Jones o Fanc Bwyd Arfon.

“Byddem yn gwerthfawrogi unrhyw beth y gallech roi, mawr neu fach.  Gadewch i ni edrych ar ôl ein gilydd a rhoi i’r rhai sydd angen.”

Yr eitemau sydd wir eu hangen ydy cig a ffrwythau mewn tin, bagiau te, coffi, sgwash, llefrith uht a grawnfwydydd.

Dosbarthu

Dros y naw mis diwethaf mae Banc Bwyd Arfon – sy’n rhan o rwydwaith genedlaethol Trussell Trust – wedi darparu parseli bwyd i 1,864 o bobl, gyda 803 ohonyn nhw’n blant.

Ym mis Hydref, cafodd 2.973kg o fwyd ei ddosbarthu yn Arfon, a dim ond 2.411kg gafodd ei gyfrannu gan y cyhoedd.

Ffigurau

  • Ar gyfartaledd, dim ond £50 yr wythnos sydd gan bobl sy’n defnyddio banciau bwyd i’w wario, ar ôl iddyn nhw dalu rhent;
  • Mae gan bron i dri chwarter y bobl sy’n ymweld â banciau bwyd gyflyrau iechyd;
  • Rhieni sengl yw 22% o bobl sy’n ymweld â banciau bwyd yng Nghymru;
  • Mae mwy na tri chwarter y bobl sy’n cael eu cyfeirio at fanciau bwyd mewn dyled.