Mae pencampwr cynaliadwyedd wedi rhoi’r gorau i geisio cynllunio taith mewn car trydan i seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, am nad oes llefydd gwefru cerbydau ar hyd y A470.

Roedd Meleri Davies yn mynychu Gwobrau’r Academi Gynaliadwy 2019 ym Mae Caerdydd yr wythnos hon, ac wedi dymuno teithio’r 186 milltir o Fethesda i’r brifddinas mewn cerbyd trydan cymunedol.

Ond ddechrau’r wythnos fe ddywedodd wrth gylchgrawn Golwg fod teithio nôl a blaen i’r brifddinas mewn car trydan yn anymarferol.

“Os dw i eisio mynd lawr y A470, y [pwynt gwefru] cyntaf ydi Llandrindod sydd ddim ar y A470, felly bydda rhaid gwirio oddi arno,” meddai Meleri Davies, Prif Swyddog menter gymdeithasol Partneriaeth Ogwen.

“Amhosib”

Neil Lewis yw Rheolwr Ynni Sir Gâr, ac mae yn gyrru cerbydau trydan ers naw mlynedd.

“Mae yn anodd ofnadwy teithio ar draws Cymru mewn car trydan … ac mae jest yn amhosib dreifio o’r gogledd i’r de mewn car trydan,” meddai.

Mae Neil Lewis yn cynghori mai’r ffordd orau o yrru o Fethesda i Gaerdydd mewn car trydan yw “mynd yn syth i Groesoswallt a dod mas o Gymru. Wedyn dilyn y pwyntiau gwefru i lawr y A49 drwy Henffordd, i fod yn saff.”

Cwmnïau preifat megis Ecotricity o Stroud yn Gloucester a BP Chargemaster o Luton yn ne ddwyrain Lloegr sy’n gyfrifol am lawer o’r pwyntiau gwefru yng Nghymru.

Ac yn ôl Neil Lewis “mae problem ofnadwy gydag [diffyg capasiti] yn isadeiledd y grid,” a phan mae’r pwyntiau gwefru yn torri i lawr, mae’n dweud ei bod hi’n cymryd “wythnosau i sortio nhw mas”.

Ymateb y Llywodraeth

Dywedodd llefarydd o Lywodraeth Cymru: “Mae yna dros 930 o bwyntiau gwefru hawdd eu cyrraedd ledled Cymru, o gymharu â 670 ym mis Ebrill eleni, gan gynnwys pwyntiau gwefru cyflym yn Aberystwyth a Llandrindod.

“Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i gynyddu nifer y cyfleusterau gwefru ar hyd ein rhwydwaith ffyrdd, mewn gorsafoedd trenau ac mewn meysydd parcio cyhoeddus.”

Mwy o’r stori hon yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg