Bydd cynrychiolwyr saith plaid yn mynd benben heno mewn dadl deledu a fydd yn cael ei darlledu o Gaerdydd.

Bydd arweinwyr tair plaid yn cymryd rhan, sef Adam Price, Plaid Cymru; Jo Swinson, y Democratiaid Rhyddfrydol; a Nicola Sturgeon, yr SNP.

Yn cynrychioli’r Ceidwadwyr bydd Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Rishi Sunak; ac yn cynrychioli Llafur bydd ei Hysgrifennydd Busnes Cysgodol, Rebecca Long-Bailey.

Cyn-arweinydd y Blaid Werdd, Caroline Lucas, fydd yn eu cynrychioli hwythau, ac mi fydd yr Aelod Seneddol Ewropeaidd, Richard Tice, yno ar ran Plaid Brexit.

Manylion eraill

Bydd y ddadl etholiadol yn cael ei darlledu o’r Senedd, ac mae ei set eisoes wedi’i chodi yn Neuadd yr adeilad.

Mi fydd yn cael ei darlledu ar sianel newyddion BBC rhwng 7.00yh a 8.30yh heno, a bydd modd ei gwylio ar-lein ac ar iPlayer hefyd.