Mae Tata Steel wedi cael eu beirniadu’n hallt gan undeb wedi i’r cwmni gyhoeddi y byddan nhw’n cael gwared ar hyd at 1,000 o swyddi yn y Deyrnas Unedig.

Yn ôl y cwmni, mae’r cynigion yn rhan o gynllun i “ddiogelu” eu dyfodol ac i “adeiladu busnes Ewropeaidd cryf a chynaliadwy”, a bydd 3,000 o swyddi’n cael eu cwtogi ledled Ewrop.

Mae Tata yn cyflogi 4,000 o bobol yn ei safle ym Mhort Talbot – bron i hanner eu gweithlu Prydeinig – ond hyd yma dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi lle’n union fydd y toriadau.

Mae disgwyl i 1,600 o bobol golli eu swyddi yn yr Iseldiroedd, ac i 350 swydd gael eu gwaredu mewn rhannau eraill o’r byd.

“Methiant”

Bellach mae, Roy Rickhuss Ysgrifennydd Cyffredinol undeb y gweithwyr dur, Community, wedi ymateb, ac mae wedi dweud bod ganddo “bryderon difrifol” am y cynlluniau.

“Mae’n teimlo fel bod y cwmni jest yn rheoli’r cwymp,” meddai. “Ac rydym ni angen newid cyfeiriad sylweddol a fydd yn gallu ysbrydoli’r gweithlu sydd ganddyn nhw yn y dyfodol.

“Mae hyn wedi digwydd oherwydd eu methiant ar lefel y rheolwyr i gael cynllun wrth gefn yn dilyn cwymp y fenter ar y cyd, Thyssenkrupp.”