Fe fydd staff mewn deg banc TSB yng Nghymru yn cael gwybod heddiw (dydd Mawrth, Tachwedd 26) neu fory a yw eu canghennau’n cau.

Fe gyhoeddodd y cwmni ddoe y bydd 82 o ganghennau a thua 400 o swyddi’n mynd ledled gwledydd Prydain y flwyddyn nesa’.

Fe fydd rhestr o’r canghennau’n cael eu cyhoeddi ddydd Iau a staff yn cael gwybod “yn ystod y dyddiau nesa’”.

Hen adeiladau mewn ardaloedd llai prysur fydd yn cau, yn ôl y banc, sy’n dweud eu bod wedi cael trafferthion addasu’r canghennau hynny ar gyfer anghenion cyfoes.

Fe fydd y TSB yn canolbwyntio ar gynyddu elw a chynnig adnoddau digidol a hunan-wasanaeth, meddai Prif Weithredwr y banc, Debbie Crosbie.

Mae gan y TSB ddeg o ganghennau yng Nghymru – dwy yn y Gogledd, un yn Aberystwyth, un yng Nhgaerfyrddin a’r gweddill yng Nghymoedd a dinasoedd y De.