Fe allai papur bro ardal Gymreicia’r byd gael ei ddirwyn i ben mor fuan â mis Mawrth y flwyddyn nesaf – os na fydd gwirfoddolwyr ifanc sydd â diddordeb mewn cymryd drosodd y gwaith o’i gynhyrchu, yn troi i fyny mewn cyfarfod cyhoeddus nos fory (dydd Mercher, Tachwed 27).

Mae rhifyn y mis hwn o Eco’r Wyddfa wedi mynd i’r wasg, ac fe fydd ar gael yn y siopau ac i ddrws i ddrws ddydd Gwener (Tachwedd 29.

Ond cyn hynny, fe ftdd cyfarfod cyhoeddus yn y Sefydliad Coffa ym mhentref Llanrug, i ystyried dyfodol y papur.

Mae nifer o swyddogion y papur wedi bod wrth eu gwaith ers deugain mlynedd, ac yn gobeithio cael ymddeol a throsglwyddo’r awennau i wirfoddolwyr ieuengach,” meddai Dafydd Whiteside Thomas, golygydd diflino y papur bro mewn neges ar wefan gymdeithasol Facebook.

“Dowch draw i Lanrug nos Fercher i ddangos eich cefnogaeth ac i gynnig cymorth.Mae angen eich cefnogaeth os yw’r papur i barhau,” meddai wedyn.

Posted by Dafydd Whiteside Thomas on Monday, 25 November 2019

Dyma’r ail waith i’r cyn-athro, yr hanesydd a’r llyfrgellydd fod yng nghadair y golygydd, a thros y blynyddoedd diwethaf fe ddaeth Eco’r Wyddfa yn bapur sy’n codi sgwarnogod ac yn mynd i’r afael â materion dadleuol yn y fro wrth odre mynydd uchaf Cymru ac sy’n ymestyn o Lanberis at gyrion Caernarfon, ac yn cynnwys pentrefi Llanrug, Deiniolen, Dinorwig a Phen isa’r waun.

Dafydd Whiteside Thomas oedd y golygydd a heriodd Lywodraeth Cymru trwy wrthod cyhoeddi’n ddigwestiwn y logo sy’n dweud ‘Ariennir gan Lywodraeth Cymru’ ar bob rhifyn o’r papur. Yn lle hynny, fe ddadleuodd yn llwyddiannus tros addasu’r label i ddweud ‘Ariennir yn rhannol gan Lywodraeth Cymru’.