Fe fydd rhybudd melyn am law trwm a llifogydd yn ei le rhwng 4 o’r gloch brynhawn heddiw (dydd Sul, Tachwedd 24) a 10 o’r gloch bore fory (dydd Llun, Tachwedd 25).

Mae’r rhybudd yn ymwneud yn benodol ag ardaloedd rhwng Caerdydd ac Abertawe, ac ardal Merthyr Tudful.

Mae disgwyl rhagor o law trwm ddydd Mawrth a dydd Mercher yr wythnos hon.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, fe allai effeithio ar gartrefi, busnesau a theithwyr.