Mae Plaid Cymru’n beirniadu’r Blaid Lafur am addo buddsoddi £100bn yn yr Alban dros gyfnod o ddeng mlynedd – wrth iddyn nhw fethu â chynnig buddsoddiad tebyg yng Nghymru.

Mae Adam Price yn cyhuddo Llafur o “gymryd Cymru’n ganiataol” ac o gamarwain ynghylch fformiwla Barnett, sef y fformiwla sy’n cael ei ddefnyddio i benderfynu faint o arian mae Cymru’n ei dderbyn fel rhan o’r cytundeb datganoli.

Mae Llafur yn dweud y bydd Cymru’n derbyn £3.4bn yn fwy erbyn 2023-24, ond mae Plaid Cymru’n dadlau y bydd yn is na’r cynnydd yn y gwariant presennol yn ôl eu cynlln nhw, a fyddai’n cyrraedd £1bn y flwyddyn nesaf.

Mae Adam Price yn dadlau bod maniffesto Llafur yn gadael Cymru’n wannach yn economaidd na’r Alban, a bod Llafur wedi cefnu ar addewid maniffesto blaenorol i edrych ar ariannu tecach i Gymru fel gwlad datganoledig.

Mae’n dweud bod yr addewidion i ddatganoli cyfiawnder a phlismona hefyd wedi cael eu rhoi o’r neilltu.

Ar y cyfan, mae Adam Price yn cyhuddo’r Blaid Lafur o “ddiystyru ac amharchu” Cymru.

‘Diffyg ymroddiad’

“Mae diffyg unrhyw fath o ymroddiad i fuddsoddi yng Nghymru’n dangos cymaint mae Llafur yn cymryd pobol Cymru’n ganiataol,” meddai arweinydd Plaid Cymru.

“Byddan nhw’n buddsoddi’r swm enfawr o £100bn yn yr Alban dros gyfnod o ddeng mlynedd ond yn gadael dim byd i Gymru.

“Ar sail cymesuredd, dylai Cymru dderbyn £60bn o fuddsoddiad dros gyfnod o ddeng mlynedd.

“Pam nad oes yna’r fath ymrwymiad gan Lafur?

“Maen nhw wedyn yn dweud y dylen ni fod yn ddiolchgar am y buddsoddiad o £3.4bn o arian Barnett ymhen pedair blynedd. Mae’n sarhaus.”

“Mae diffyg unrhyw fath o uchelgais a buddsoddiad yn dangos y difaterwch ac amharch sydd gan Lafur at Gymru.”