Mae sinema yn Abertawe yn cynnig rhoi eu cyfeiriad i bobol ddigartref gael cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad cyffredinol.

Mae angen cyfeiriad ar bob unigolyn i allu cofrestru i fwrw eu pleidlais, ac mae Cinema & Co yng nghanol y ddinas yn dweud ei bod yn bwysig i bawb allu cymryd rhan.

Bydd y sinema hefyd yn cynnig y cyfle i bobol ddigartref gael diodydd twym a gweld ffilm ar y Dachwedd 25.

“Ar ddydd Llun 25 Tachwedd, rydym yn cynnig i unrhyw berson digartref neu sydd wedi gorfod symud o’u cartrefi i ddod i mewn i’r sinema i lenwi ffurflen gofrestru pleidleiswyr (gan ddefnyddio ein cyfeiriad ni) ar gyfer yr etholiad sy’n dod, fel y gallwch chi weithredu’r hawl democrataidd hwnnw,” meddai’r sinema ar eu tudalen Facebook.

“Rydym yn credu ei fod mor bwysig i bob aelod o’r gymdeithas allu cymryd rhan a chael llwyfan i’ch llais.

“Mae digartrefedd ar gynnydd yn y DU ac mae’r demograffeg bob amser yn cael ei dangynrychioli yn y bleidlais.

“Bydd hefyd gennym yr opsiwn o ddangos ffilm a chael diodydd twym am ddim, ac fe fyddwn ni’n eich helpu chi i gyflwyno’r cais.”

Mae cynllun tebyg ar y gweill yn adeilad 10 Feet Tall, bar yng Nghaerdydd.