Mae’r heddlu’n apelio am dystion ar ôl lladrad arfog mewn siop Co-op yn y Rhyl nos Iau.

Aeth dyn i mewn i’r siop tua 10.25pm gan fygwth y staff gydag arf cyn dianc ar droed gyda swm o arian.

Mae’n cael ei ddisgrifio fel dyn 6 troedfedd o daldra a chanolig o ran corffolaeth. Roedd yn gwisgo hwdi llwyd, trowsus tywydd a mwgwd du.

“Mae ein hamchwiliadau’n parhau,” meddai’r Ditectif Arolygydd Elfyn Hughes o Heddlu Gogledd Cymru. “Rydym yn awyddus i glywed oddi wrth unrhyw un a oedd yng nghyffiniau’r siop ac wedi gweld dyn yn ymddwyn yn amheus ar y pryd, neu a allai fod wedi gyrru heibio gyda dashcam yn eu car gysylltu â ni.”