Mae dau ddyn wedi eu cael yn euog o ddwyn gwerth £3m o drysor Llychlynnaidd.

Roedd George Powell, 38, o Gasnewydd a Layton Davies, 51, o Bontypridd wedi methu a datgan eu bod wedi dod o hyd i’r casgliad “amhrisiadwy” mewn cae yn Sir Henffordd ym mis Mehefin 2015.

Roedd y ddau wedi canfod tua 300 o ddarnau arian, modrwy a breichled ynghyd a thrysorau eraill oedd yn dyddio nôl 1,100 o flynyddoedd. Cafodd George Powell a Layton Davies wedi eu cyhuddo ynghyd a dau ddyn arall Paul Wells o Gaerdydd a Simon Wicks, o Sussex, o gynllwynio i gelu’r trysor.

Roedd George Powell, Layton Davies a Simon Wicks hefyd wedi’u cyhuddo o werthu’r darnau arian i gasglwyr preifat neu eu cuddio. Dim ond 31 o’r darnau arian sydd wedi cael eu canfod ac mae’r rhan fwyaf o’r trysor yn parhau ar goll.

Cafodd y pedwar hefyd eu cyhuddo o anwybyddu’r gyfraith sy’n dweud bod rhaid datgan canfyddiadau o’r fath.

Fe fydd gwrandawiad yn cael ei gynnal heddiw (dydd Gwener, Tachwedd 22) yn Llys y Goron Caerwrangon a byddan nhw’n cael eu dedfrydu’n ddiweddarach.