Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd yn credu nad yw yn ymarferol i godi ar weithwyr am barcio mewn ardaloedd gwledig.

Roedd Dyfrig Siencyn yn ymateb i’r alwad gan y Gweinidog Trafnidiaeth i godi treth ar weithwyr cyngor sir am barcio.

Gobaith Ken Skates yw y byddai codi tâl o’r fath yn arwain at weithwyr cyngor yn defnyddio llai ar eu ceir.

Mae’r Gweinidog Trafnidiaeth o’r farn bod dibyniaeth Cymru ar geir yn “eithafol” a bod symud tuag at ffurf fwy cynaliadwy o drafeilio yn “hollol angenrheidiol”.

Ond mae Arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud wrth golwg360 ei fod yn gwrthwynebu’r syniad.

“Faswn i ddim eisiau gweld ein cyngor yn codi ar weithwyr am barcio,” meddai Dyfrig Siencyn.

“Mae’r amgylchiadau mewn dinas yn wahanol i’r amgylchiadau mewn ardal wledig a dw i ddim yn credu y byddai’r cynllun yn hwylus yma yng Ngwynedd.”

Roedd yr Aelod Cynulliad annibynnol Michelle Brown wedi dweud fod y cynllun yn “syniad ofnadwy”.