Mae’r ymgeisydd Ceidwadol yn Ynys Môn wedi ymrwymo i ddysgu Cymraeg os ddaw hi’n Aelod Seneddol.

Virginia Crosbie yw’r unig ymgeisydd ar yr ynys sydd ddim yn hanu o Gymru, ac mae eisoes wedi cael ei beirniadu ar gyfryngau cymdeithasol am hynny.

Mae yn Gadeirydd ar gangen y Ceidwadwyr yn Kensington, Chelsea a Fulham; ac mae wedi byw yn Sussex am ddeng mlynedd gyda’i theulu.

Ond wrth drafod y beirniadu arni gyda golwg360, mae Virginia Crosbie yn pwysleisio mai glöwr ym Merthyr Tudful oedd ei thaid, bod ei thad wedi’i addysgu yn Nhrefynwy, a bod hithau’n teimlo’n rhannol Gymreig.

“Dw i’n onest iawn am y ffaith fy mod i ddim yn dod o Gymru,” meddai. “A dw i’n credu bod pobol yn fy nghanmol am hynny.

“Dw i wedi dweud yn glir y byddaf yn symud fy nghartref teuluol i fan hyn os caf fy newis. A byddai yn bleser dysgu Cymraeg. Yn sicr.

“Dw i’n credu y byddai hynny’n rhan o fy ymrwymiad o fod yn Aelod Seneddol yma. Yn bendant.”

Mi safodd Virginia Crosbie yn y Rhondda yn etholiad 2017 gan ennill 10% o’r bleidlais, ac mae’n sefyll yn Ynys Môn wedi i’r ymgeisydd, Chris Davies, dynnu yn ôl.

Profiad yn bwysicach na chysylltiadau gyda’r Fam Ynys

Mae llawer o drafod wedi bod hyd yma am gysylltiadau’r ymgeiswyr ag Ynys Môn,  ond mae Virginia Crosbie yn teimlo bod profiad yn ffactor pwysicach.

“Mae gen i lot o brofiad yn San Steffan yn barod,” meddai. “Dw i wedi bod yn gweithio’n galed i gael balans rhwng menywod a dynion yn San Steffan.

“Felly mae gen i gysylltiadau da iawn gydag Aelodau Seneddol a gweinidogion. Dw i’n berson a all weithio gyda’r gymuned yma a sefyll drostyn nhw yn San Steffan.

“Mae gen i’r cysylltiadau yna yn barod. Fi yw’r ymgeisydd, o bob un, a all ddechrau’n syth heb orfod dysgu pob dim o’r newydd.”

Aled ap Dafydd yw ymgeisydd Plaid Cymru yn yr etholaeth, Mary Roberts yw ymgeisydd y Blaid Lafur, a Helen Jenner yw ymgeisydd Plaid Brexit.