Mae Plaid Cymru’n dweud y bydden nhw’n cyflwyno credyd trethi i bobol sy’n gwario mwy na 30% o’u hincwm ar rentu tŷ.

Mae’r addewid yn rhan o’u hymgyrch ar gyfer yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Yn ôl Ben Lake, ymgeisydd y blaid yng Ngheredigion, mae 37% o bobol sy’n rhentu’n breifat yng Nghymru’n ennill cyflog o lai na £15,000, a bron i hanner cartrefi Cymru’n gwario dros 30% o’u hincwm ar gostau cartrefi.

Mae’n dweud y byddai’r blaid yn creu credyd treth o hyd at £25 yr wythnos i’r bobol hynny, a bod llywodraethau Llafur a’r Ceidwadwyr wedi “amddifadu ein cymunedau” drwy fethu ag edrych ar eu holau nhw.

Mae’n galw am weddnewid y polisi tai yng Nghymru, gan gynnwys creu Cwmni Tai Cenedlaethol, gyda’r nod o sicrhau 20,000 o gartrefi gwyrdd newydd o fewn pum mlynedd.

Byddai Plaid Cymru hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol i adeiladu tai cyngor newydd, meddai.

‘Braint i lai o bobol bob blwyddyn’

“Dylai pawb yng Nghymru fod â chartrefi diogel, sefydlog ac addas ond mae’n prysur ddod yn fraint i lai o bobol bob blwyddyn,” meddai Ben Lake.

“Mae rhentwyr yng Nghymru’n cael dêl wael: mae 37% o rentwyr yng Nghymru’n ennill llai na £15,000 ac mae bron i hanner cartrefi preifat yng Nghymru’n gwario mwy na 30% o’u hincwm ar gostau tai.

“Mae hyn yn gadael dros 100,000 o gartrefi ag ychydig iawn i’w wario ar gostau byw sylfaenol megis bwyd, gwres neu drafnidiaeth.”

Mae’n dweud bod yr hyn mae Plaid Cymru’n ei gynnig yn “adlewyrchu diffyg parodrwydd llywodraethau olynol i fuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd dros y cyfnod”, a bod y bai am hyn ar Lafur a’r Ceidwadwyr.

“Mae angen gweddnewid polisi tai Cymru, gan ddefnyddio miloedd o gartrefi gwag unwaith eto a chreu system gynllunio sy’n gwasanaethu’n cymunedau yn hytrach nag elw corfforaethau tai.

“Nid adeilad yn unig yw cartref. Mae’n rhoi to uwch bennau pobol. Mae’n cynnig sicrwydd a diogelwch.

“Mae angen i ni weld y tu hwnt i frics a mortar a deall effaith ehangach tai fforddadwy o safon uchel yn ein gwlad.”