Mae cytundeb newydd rhwng Maes Awyr Caerdydd a Chyngor Sir Ynys Môn yn golygu y bydd y maes awyr yn cynnal gwasanaethau teithwyr ym Maes Awyr Môn o Ragfyr 1 eleni ymlaen.

Agorodd maes awyr Gogledd Cymru yn 2007, ac ers hynny mae wedi cynnal gwasanaeth yn ystod yr wythnos rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

Bydd Maes Awyr Caerdydd yn ymgymryd â’r cytundeb pan ddaw contract Maes Awyr Môn gyda’i ddarparwr presennol, Apleona, i ben ddiwedd y mis hwn.

Bydd y cytundeb newydd ar waith tan fis Mawrth 2023 a bydd yr aelodau staff sy’n gweithio ym Maes Awyr Môn ar hyn o bryd yn ymuno â thîm Maes Awyr Caerdydd.

“Ehangu”

Dywedodd Ceri Mashlan, Rheolwr Gweithrediadau Maes Awyr Caerdydd: “Rydym yn falch iawn ein bod wedi sicrhau’r cytundeb hwn ac yn cael cyfle i weithio gyda Chyngor Sir Ynys Môn a’r tîm gwych ym Maes Awyr Môn.

“Fel maes awyr cenedlaethol y wlad, yn ogystal ag ased strategol allweddol, rydym yn falch o ehangu ein busnes drwy ddefnyddio ein profiad i sicrhau cynaliadwyedd mewn gweithrediadau meysydd awyr ledled Cymru.

“Pennod gyffrous”

Dywedodd Donna Williams, Rheolwr Maes Awyr Ynys Môn: “Mae hon yn bennod newydd, gyffrous i Faes Awyr Môn.

“Tîm bach ydyn ni yma ar Ynys Môn felly bydd yn wych croesawu recriwtiaid newydd ac ymuno â thîm ehangach Maes Awyr Caerdydd, a fydd wrth law i rannu profiad a gwybodaeth.”