Dyw’r Blaid Lafur ddim yn bwriadu ymchwilio i honiadau fod  ymgeisydd seneddol wedi bod yn rhedeg grŵp Facebook sydd ynghlwm a sylwadau gwrth-semitaidd.

Cafodd y grŵp ei sefydlu er mwyn rhoi cyngor i aelodau Llafur ar sut i amddiffyn eu hunain mewn ymchwiliadau disgyblu mewnol y blaid.

Dywedodd llefarydd ar ran y blaid nad yw Maria Carroll, ymgeisydd Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, wedi cael ei chyhuddo o wneud sylwadau gwrth-semitaidd ei hun ac nad ydyn nhw wedi derbyn cwyn amdani. Fe ymddangosodd yr honiadau am y sylwadau mewn erthygl ym mhapur y Mail on Sunday ddoe (dydd Sul, Tachwedd 17).

Mae Maria Carroll wedi amddiffyn ei hun mewn sylwadau ar ei chyfrif Twitter, gan ddweud nad oedd hi erioed wedi gweld y sylwadau gwrth-semitaidd gan ddau aelod arall o’r grŵp a’i bod wedi gadael y grŵp pan oedd wedi dechrau rhoi pwyslais ar wrth-semitiaeth.

Dywedodd: “Ni chafodd y sylwadau yma eu gwneud mewn grŵp Facebook yr oeddwn i ynddo, a phe bawn i wedi eu gweld mi faswn i wedi eu condemnio,” meddai.

Llafur yn erbyn gwrth-semitiaeth yn condemnio’r penderfyniad

Mae’r grŵp Llafur yn Erbyn Gwrth-Semitiaeth (LAAS) wedi condemnio penderfyniad y blaid i beidio cynnal ymchwiliad i’r honiadau.

Mewn datganiad ar wefan y grŵp, dywedodd yr arweinydd Fiona Sharpe bod y penderfyniad i beidio cynnal ymchwiliad yn “warthus”.

“Cafodd Maria Carroll ei chrybwyll i Lafur yn erbyn gwrth-semitiaeth gyntaf yn 2017, roedd hi’n aelod blaenllaw o grŵp Facebook oedd yn delio gyda rhai o’r sylwadau gwrth-semitaidd mwyaf ffiaidd mae ein hymchwilwyr erioed wedi ei weld.”

Mae LAAS wedi pwyso ar aelodau blaenllaw o’r Blaid Lafur yng Nghymru, gan gynnwys y Prif Weinidog Mark Drakeford, i alw am ymchwiliad llawn ar frys ac yn galw ar Maria Carroll i gamu o’r neilltu fel ymgeisydd cyn yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Mae Golwg360 wedi gofyn i swyddfa Mark Drakeford am ymateb.

Yr ymgeiswyr eraill sy’n sefyll yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yw Jonathan Edwards ar ran Plaid Cymru, Havard Hughes ar ran y Ceidwadwyr a Peter Prosser o Blaid Brexit.