Mae’r gallu i siarad a chyfathrebu yn y Gymraeg yn “ddymunol” ar gyfer swydd ddiweddaraf Adra (Cartrefi Cymunedol Gwynedd gynt).

Mae’r cwmni’n hysbysebu swydd Rheolwr Datblygu Tir, gyda’r person a gaiff ei benodi’n “helpu i wireddu ein huchelgais i adeiladu cartrefi newydd i bobl yn ein cymunedau”.

Prif gyfrifoldebau’r swydd yw “datblygu cyfleoedd newydd i greu cartrefi, dod o hyd i safleoedd newydd a gweithio gyda phartneriaid i gyflwyno cynlluniau uchelgeisiol”.

Ymhellach, mae’r cwmni’n dweud eu bod yn “gweld ein hunain fel mwy na darparwyr tai”, a’u bod yn “credu mewn dull newydd, arloesol o ddarparu cartrefi newydd gan weithio gyda’n cwsmeriaid a meithrin ymdeimlad cymunedol cryf”.

“Anghenion y cwsmer yw’r flaenoriaeth bob tro,” meddai’r hysbyseb wedyn, gan ychwanegu eu bod yn “blaenoriaethu’r gymuned”.

Mae gofyn i’r sawl a fydd yn cael ei benodi i feddu ar “galon gymunedol”.

Helynt y dirprwy brif weithredwr

Dyma’r ail waith eleni i’r cwmni wneud y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer un o’i swyddi.

Fis Ebrill eleni, roedd Adra yn hysbysebu ar gyfer dirprwy brif weithredwr newydd.

Ond fe arweiniodd gwneud y Gymraeg yn “ddymunol” at gyhuddiad eu bod yn torri eu cynllun iaith eu hunain.

Mae’r cynllun iaith hwnnw’n nodi mai “iaith weithredu fewnol CCG yw Cymraeg ac fe’i siaredir fel norm”, a bod cofnodion mewnol yn ddwyieithog.

Fe wnaethon nhw addo yn yr un cynllun fod unrhyw aelod o staff “yn gallu cyfathrebu yn effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg hyd at safon sy’n briodol i ddibenion y swydd”.

Wrth amddiffyn y penderfyniad bryd hynny, dywedodd y cwmni bod eu gwaith yn “ehangu y tu hwnt i’r Fro Gymraeg”.

Mae Golwg360 wedi ceisio cael ymateb gan Adra.