Mae hanes y mudiad annibyniaeth Yes Cymru yn ymddangos ar wefan Ffrengig heddiw (dydd Sul, Tachwedd 17).

Mae Clément Clerc-Dubois wedi cyfweld â’r cadeirydd Siôn Jobbins ar gyfer erthygl o’r enw Semine sur le Pays de Galles (yr wythnos yng Nghymru).

Mae’r erthygl yn egluro pwy yw Siôn Jobbins, gan ddweud ei fod e’n gyn-ymgeisydd seneddol Plaid Cymru, yn awdur llyfrau hanes Cymru ac yn sylfaenydd y parth .cymru ar y we a Ras yr Iaith, sy’n seiliedig ar ymgyrchoedd Redadeg yn Llydaw a Korrika yng Ngwlad y Basg.

Mae’r erthygl yn ymddangos drannoeth cynhadledd ar economi Cymru annibynnol yng Nghaerdydd, ac mae hefyd yn sôn am ymgyrchoedd y mudiad ar lawr gwlad, gan gynnwys baneri ar bontydd.

Pam annibyniaeth?

Mae’r erthygl wedyn yn gofyn y cwestiwm pam ddylai Cymru fod yn wlad annibynnol.

“Mae Cymru’n genedl a chanddi ei hiaith ei hun – mae’r Gymraeg yn iaith Geltaidd, yn debyg i’r Llydaweg,” meddai Siôn Jobbins.

“Mae gennym ein hannibyniaeth mewn rygbi a phêl-droed a dydyn ni ddim yn gweld unrhyw reswm pam na ddylid cael annibyniaeth wleidyddol.”

Diwedd y Deyrnas Unedig?

Yn yr erthygl, mae Siôn Jobbins yn darogan tranc y Deyrnas Unedig yn sgil annibyniaeth i’r Alban ac uno Iwerddon, sef dau ganlyniad posib i’r broses Brexit.

“Y dewis i Gymru yw naill ai cael ei hymgorffori fel rhan o Loegr – dw i’n credu mai dyma fyddai nifer o Geidwadwyr yn dymuno’i wneud – neu ddod yn annibynnol,” meddai.

“Does dim byd y gall Llywodraeth Prydain ei wneud na allai Cymru annibynnol ei wneud cystal os nad yn well.”

Mae’n dweud bod San Steffan “yn sefydliad sy’n llygru ac sy’n llwgr ac sy’n credu bod ganddo ymerodraeth o hyd”, ac yn nodi hybu a gwarchod yr iaith Gymraeg, sicrhau swyddi yng nghefn gwlad ac ennill annibyniaeth fel y prif heriau sydd gan Gymru erbyn hyn.