Mae dynes 18 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd A487 yn ardal Comins Coch ger Aberystwyth.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng Vauxhall Astra du ac Audi A6 arian am oddeutu 10 o’r gloch neithiwr (nos Sadwrn, Tachwedd 16).

Roedd hi’n teithio mewn car oedd yn mynd i gyfeiriad Bow Street.

Cafodd hi anafiadau difrifol, a bu farw yn yr ysbyty fore heddiw (dydd Sul, Tachwedd 17).

Mae nifer o bobol eraill yn yr ysbyty ag anafiadau difrifol.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.