Mae dynes 80 oed wedi marw yn dilyn tân yn ei chartref yn Sir y Fflint.

Cafodd hi ei chludo i’r ysbyty yn dilyn y digwyddiad yn ardal Big Mancot nos Wener (Tachwedd 15).

Cafodd y gwasanaeth tân eu hysbysu drwy system fonitro yn yr adeilad.

Mae ymchwiliad ar y gweill.