Mae Ryan Giggs, rheolwr tîm pêl-droed Cymru, yn dweud bod ei dîm yn adeiladu momentwm cyn eu gêm dyngedfennol yn erbyn Hwngari yng Nghaerdydd nos Fawrth (Tachwedd 19).

Hyd yn oed cyn herio Azerbaijan o 2-0 yn Baku neithiwr, roedd Cymru eisoes yn sicr o’u lle yn y gemau ail gyfle, ond byddai buddugoliaeth dros Hwngari yn golygu eu bod nhw’n cyrraedd Ewro 2020 yn awtomatig.

Daeth goliau Cymru gan Kieffer Moore a Harry Wilson yn yr hanner cyntaf wrth i Gymru edrych yn gwbl gyfforddus yn Baku.

“Y canlyniad oedd yn cyfri, a sicrhau hwnnw oedd y flaenoriaeth,” meddai Ryan Giggs.

“Roedd ansawdd peth o’r chwarae’n rhagorol, rydyn ni wedi gwella ers y gêm yn erbyn Azerbaijan (gan ennill o 2-1 gartref ym mis Medi).

“Rydyn ni wedi dechrau adeiladu momentwm, sydd ddim yn hawdd yn y byd pêl-droed rhyngwladol.

“Dyw Azerbaijan ddim yn lle hawdd i ddod ac roedd cymaint yn dibynnu ar y gêm fel ei bod hi ymhlith fy mherfformiadau.”

Aaron Ramsey

Hon oedd gêm gyntaf Aaron Ramsey yn yr ymgyrch ragbrofol, ac roedd Gareth Bale wedi gwella o anaf mewn pryd ar gyfer y gêm.

Doedd Gareth Bale ddim wedi chwarae pêl-droed ers mis, a hon oedd gêm gyntaf Aaron Ramsey yn y crys coch ers dros flwyddyn.

Yn ôl Ryan Giggs, fe fydd ffitrwydd y ddau yn cael ei asesu cyn nos Fawrth.