Mae dynes 80 oed wedi cael ei hachub yn dilyn tân yn ei chartref yn Sir y Fflint neithiwr (nos Wener, Tachwedd 15).

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw drwy system fonitro yn yr adeilad i ardal Big Mancot am oddeutu 8.45yh.

Cafodd y ddynes ei chludo i’r ysbyty am driniaeth ar ôl cael ei llosgi.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y tân.