Fe fydd Ken Skates yn cyfarfod ag Andy Burnham a Steve Rotherham, meiri Manceinion a Lerpwl, yn Wrecsam heddiw i drafod cysylltiadau rheilffyrdd posib rhwng gogledd Cymru a gogledd Lloegr.

Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn cyfarfod â’r meiri yng ngorsaf drenau’r dref er mwyn amlinellu cynlluniau Llafur Cymru i roi hwb i gysylltiadau trafnidiaeth.

Byddan nhw hefyd yn cael cwmni Mary Wimbury, ymgeisydd seneddol Llafur yn y dref.

Mae Llafur eisoes yn dweud y byddan nhw’n ehangu eu cysylltiadau trafnidiaeth yn sylweddol pe baen nhw’n dod i rym yn San Steffan ar ôl yr etholiad cyffredinol ar Ragfyr 12.

Y cynlluniau

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cyflwyno cynllun gwerth £5bn ar gyfer Cymru a’r Gororau a fydd yn gweld mwy o wasanaethau ledled y wlad.

Fel rhan o’r cynllun, fe fydd ynni adnewyddadwy’n pweru holl orsafoedd rheilffyrdd y gogledd.

Bydd prisiau teithio’n cael eu haneru i gwsmeriaid rhwng 16 a 18 oed, a bydd system docynnau clyfar yn cael ei chyflwyno.

Bydd dwy bartneriaeth newydd yn cael eu sefydlu, yng ngogledd Cymru ac yng ngogledd Lloegr rhwng Crewe a Henffordd, a bydd rhagor o staff yn cael eu cyflogi i gyflwyno’r gwasanaethau hyn.

‘Rhan allwedol o’r gwaith’

Yn ôl Ken Skates, mae cysylltu gogledd Cymru gyda gogledd Lloegr yn “rhan allweddol” o waith Llywodraeth Cymru ar y rheilffyrdd.

“Mae Llywodraeth Lafur Cymru’n cyflwyno gweilliannau uchelgeisiol i rwydweithiau rheilffyrdd, bysus a ffyrdd ledled gogledd Cymru,” meddai.

“Rhan allweddol o’r gwaith hwn yw sicrhau bod ein rhwydweithiau trafnidiaeth yn cysylltu’n llawn â gogledd orllewin Lloegr.”