Mae ‘Mr Stop Brexit’ wedi dweud ei fod “yn hollol o ddifrif” ynghylch cipio sedd Cwm Cynon oddi ar y Blaid Lafur.

Ymgyrchydd gwrth-Brexit yw Steve Bray, sydd yn hanu o Bort Talbot, ac mae yn enwog am gynnal protestiadau dyddiol ar College Green yn San Steffan mewn gwisg las.

A bellach mae wedi cyhoeddi y bydd yn sefyll tros y Democratiaid Rhyddfrydol yn yr etholiad cyffredinol.

Mae sedd Cwm Cynon wedi bod yn nwylo Llafur ers iddi gael ei sefydlu yn yr 1980au, a daeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn olaf yno yn yr etholiad diwethaf.

Ond er gwaetha’ hyn i gyd mae Steve Bray yn ffyddiog.

“Dw i’n gwybod bod y sedd yn gadarnle i Lafur,” meddai. “Roedd Ann Clwyd yn Aelod Seneddol da iawn. Ond mae gen i’r un cyfle ag sydd gan unrhyw un sydd yn sefyll yno…

“Dw i ddim yn crynu yn fy sgidiau. Dw i’n siŵr y bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gwneud yn dda yno a dros Brydain gyfan.”

Mae Jo Swinson, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, eisoes wedi dweud nad yw hi’n cytuno â’r rhai sy’n debygol o ystyried ymgeisyddiaeth Steve Bray yn “jôc”.

Pam ymuno â’r Lib Dems?

Er bod sawl plaid yn sefyll tros aros yn yr Undeb Ewropeaidd, mae Steve Bray wedi ochri gyda’r Democratiaid Rhyddfrydol gan ei fod yn teimlo bod y blaid yn fwy brwd.

“Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol neges ‘Aros’ gref,” meddai. “Maen nhw eisiau diddymu Erthygl 50. Yn wreiddiol roeddwn yn gefnogol iawn i’r syniad o gynnal ail refferendwm.

“Ond byddai’n well gen i ddiddymu erthygl 50 achos y senedd ddylai drin â’r mater. Dw i’n credu’n gryf y byddai ail refferendwm – beth bynnag yw’r canlyniad – yn arwain at raniadau.”

Mae’r ymgeisydd o blaid y ‘pact aros’ rhwng y pleidiau aros am ei fod yn credu “bod yn rhaid i ni uno er mwyn rhwystro Brexit”.