Mae cefnogwyr Cymru wedi bod yn canmol Aaron Ramsey am gynnal cyfweliad yn yr iaith Gymraeg ar drothwy’r gêm fawr yn erbyn Azerbaijan yfory.

Fe gafodd seren canol cae Cymru addysg Gymraeg cyn symud i glwb Arsenal yn Llundain yn 17 oed a bellach mae yn chwarae i gewri Juventus yn yr Eidal.

Bu’r seren yn absennol o garfan Ryan Giggs am gyfnodau eleni oherwydd anaf, ac mae’r cefnogwyr wrth eu boddau ei fod yn holliach ar gyfer y ddwy gêm olaf yn rowndiau rhagbrofol Ewro 2020.

Y farn gyffredinol yw bod yn rhaid i Gymru ennill oddi cartref yn Azerbaijan yfory, a gartref yn erbyn Hwngari nos Fawrth nesaf er mwyn cymhwyso.

“Hapus i fod yn ôl”

Mewn cyfweliad gydag Ian Gwyn Hughes, Pennaeth Cyfathrebu Cymdeithas Bêl-droed Cymru, mae Aaron Ramsey yn dweud ei fod yn falch o gael dychwelyd i’r garfan ryngwladol yn dilyn cyfnod rhwystredig gydag anafiadau.

“Mae wedi bod yn amser hir ers y tro diwethaf.

“Rydan ni efo siawns i cwaliffeio felly rydw i’n hapus i fod yn ôl, ac yn ôl gyda’r bechgyn.”

Mae chwaraewr canol cae Juventus hefyd yn dweud fod bywyd yn “mynd yn dda” draw yn yr Eidal gyda’r teulu “wedi setlo lawr ac mae’r bechgyn yn mynd i ysgol meithrin nawr”.

O ran yr her yn Baku yfory, mae’r chwaraewr creadigol sydd wedi sgorio 14 gôl mewn 58 o gemau tros ei wlad yn disgwyl “gêm anodd…

“Ond rwy’n credu mae gyda ni beth sydd ei angen i ennill y gêm.

“Gobeithio byddwn ni yn gallu ennill y ddwy gêm [a chael] rhywbeth i’w ddathlu ar y dydd Mawrth.”

Bydd Azerbaijan v Cymru yn fyw ar S4C yfory gyda’r gic gyntaf am bump

Y cyfweliad…