Mae perchennog siop sglodion yn Sir Gaerfyrddin wedi gwadu llofruddio ei wraig drwy daflu olew berwedig ati, clywodd llys ddoe (dydd Iau, Tachwedd 14).

Dywedodd Geoffrey Bran, 71, bod ei wraig Mavis Bran, 69, wedi “drysu” pan honnodd ei fod wedi ymosod arni yn eu siop, Chipoteria, yn Hermon, cyn iddi farw yn yr ysbyty chwe diwrnod yn ddiweddarach.

Yn Llys y Goron Abertawe, dywedodd Geoffrey Bran bod ei wraig wedi llosgi ei hun yn ddifrifol ar ôl iddi gwympo a thynnu’r ffriwr saim dwfn ar ei phen.

Ond dywedodd “nad oedd ateb” ganddo pam ei fod wedi ei hanwybyddu am ddwy awr gan adael i ffrind ffonio am ambiwlans tra ei fod o’n parhau i weini cwsmeriaid yn y siop.

Wrth gael ei holi gan Paul Lewis QC ar ran yr erlyniad, dywedodd ei fod “mewn byd arall. Pan ofynnodd Paul Lewis iddo a oedd yn caru ei wraig, dywedodd “ydw” a’i fod yn gweld ei heisiau.

Ychwanegodd bod ei wraig wedi dweud celwyddau amdano yn y gorffennol gan honni ei fod yn ei cham-drin, a’i bod hi wedi bod yn yfed gwin coch ar y diwrnod y cafodd ei hanafu.

Roedd Mavis Bran wedi dweud wrth dystion bod ei gwr wedi “colli ei dymer” ac wedi ymosod arni gyda’r ffriwr.

Roedd hi wedi cael llosgiadau i 46% o’i chorff a bu farw yn Ysbyty Treforys yn Abertawe chwe diwrnod wedi’r ymosodiad honedig ar Hydref 23 y llynedd.

Mae Geoffrey Bran, o Hermon, yn gwadu llofruddio ei wraig. Mae’r achos yn parhau.