Pwyllgor o bobol ddylai ddelio â chwynion am Aelodau Cynulliad yn hytrach nag un unigolyn.

Dyna mae sawl elusen a melin drafod wedi ei ddweud mewn llythyr at y Llywydd, Elin Jones, yn sgil wythnos dymhestlog yn y Bae.

Camodd y Comisiynydd Safonau, Syr Roderick Evans, o’r neilltu ar ddechrau’r wythnos wedi iddo gael ei recordio’n gyfrinachol gan yr Aelod Cynulliad, Neil McEvoy.

Mae’r recordiadau yn dangos bod y barnwr hwnnw yn rhagfarnllyd, yn ôl gwleidydd, a bellach mae Douglas Bain wedi’i benodi i’r rôl dros dro.

Yn y llythyr mae’r elusennau – gan gynnwys Chwarae Teg a Llamau – yn galw am “sustem fwy cadarn” o ddelio gyda chwynion er mwyn ymdopi â’r sefyllfa wleidyddol sydd ohoni.

Y llythyr

“Ysgrifennwn atoch fel sefydliadau … sy’n gynyddol bryderus am y lefel o ragfarn ac aflonyddu mae menywod yn wynebu yn llygad y cyhoedd,” meddai’r llythyr.

“Mae hyn yn amlwg yn broblem eang, a dyw hi ddim wedi ei chyfyngu i’r Cynulliad. Er hynny mae gan bob sefydliad rôl wrth fynd i’r afael â hyn…

“Mae digwyddiadau’r dyddiau diwethaf wedi gwneud hi’n gliriach i ni ein bod ni angen mynd ati’n syth i ddiwygio rôl y Comisiynydd Safonau.”

Diwygio

Mae’r elusennau yn galw:

  • Bod panel yn cael ei sefydlu i gymryd lle’r Comisiynydd Safonau
  • Bod cymorth yn cael ei roi i’r panel pan fo angen
  • Bod gan y comisiynwyr newydd mwy o bwerau pan ddaw at gosbi
  • Bod y comisiynwyr yn cael ymchwilio am gyfnod hirach na dim ond 12 mis