Mae cyn-Brif Weinidog Cymru wedi bod ynghlwm â dadl danllyd ar gyfryngau cymdeithasol gyda rhai o aelodau mwyaf dadleuol y Cynulliad.

Roedd hi’n ddiwrnod tanllyd yn y Bae ddydd Mawrth (Hydref 12) yn sgil ymddiswyddiad y Comisiynydd Safonau, Roderick Evans.

Camodd o’r neilltu wedi iddo gael ei recordio’n gyfrinachol gan yr Aelod Cynulliad, Neil McEvoy, ac roedd hefyd sôn am y Llywydd, Elin Jones, yn y recordiadau yma.

Arweiniodd hyn at Mark Reckless, Arweinydd Plaid Brexit, yn ei chyhuddo yn y siambr o fod yn rhagfarnllyd yn ystod sesiwn cwestiynau’r Prif Weinidog.

Gwnaeth Carwyn Jones, y cyn-Brif Weinidog, ymateb i hyn trwy drydar bod ymddygiad Mark Reckless yn “warth”, a’r neges yma sydd wedi tanio dadlau rhyngddo ef a sawl un arall.

Ffraeo a thrydar

Mae neges y cyn-Brif Weinidog yn erfyn ar Mark Reckless i “fyfyrio yn ofalus ar yr hyn y gwnes di, a gofynna i dy hun a oeddet ti wedi ymddwyn yn gyfreithlon neu’n egwyddorol.”

Mae Neil McEvoy wedi ymuno a’r ffrae trwy gyhuddo Carwyn Jones o ragrith a chyfeirio at deulu Carl Sargeant – y cyn-weinidog a laddodd ei hun rai dyddiau ar ôl cael ei ddiswyddo o’r cabinet.

“A ydw i’n byw mewn byd arall?” meddai Neil McEvoy mewn ymateb i’r neges ar Drydar. “Ydy’r dyn yma’n sôn am ymddwyn yn ‘egwyddorol’ ar ôl y ffordd y bu iddo drin teulu Sargeant?”

Mae Carwyn Jones wedi ymateb i hynny trwy ddweud: “Plîs Neil. Roedd Carl yn dy gasáu yn fwy nag unrhyw un ym myd gwleidyddiaeth.”

“Dw i wedi [ymddwyn yn gyfreithlon ac yn egwyddorol],” meddai Mark Reckless wrth ymateb i drydariad Carwyn Jones. “Dyna wnes i. Allwch chi ddweud yr un peth?”