Mae cerdd gyntaf Iestyn Tyne yn fardd preswyl Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2021 yn rhoi sylw i enwau rhai o gaeau’r ardal.

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth (Tachwedd 12) mai’r bardd sy’n hanu o fro’r Brifwyl fyddai’r bardd preswyl ar gyfer yr Eisteddfod a fydd yn cael ei chynnal yn ardal Boduan ger Pwllheli.

Mae ei gerdd gyntaf, ‘Steddfod y Lloeau’, yn defnyddio enwau rhai o’r caeau fydd yn ffurfio’r Maes.

“Cerdd groeso ysgafn ac eitha’ ffwrdd-â-hi’ ydi hon,” meddai wrth golwg360.

“Daeth cnewyllyn y gerdd o enwau rhai o’r caeau ar y tir lle cynhelir Eisteddfod 2021; enwau sydd ar gael i bawb eu darganfod trwy brosiect Cynefin y Llyfrgell Genedlaethol, sy’n defnyddio’r hen fapiau degwm ac ati.

“Roedd Cae Llo Main, Cae Llo Mawr, a Chae Llo Bach – yn ogystal â bod yn enwau hyfryd ac unigryw ynddynt eu hunain – yn arbennig o addas gan mai fel ‘Lloeau Llyn’ y cyfeirir at bobl y Penrhyn gan rai.”

Gelir gweld llun o un o’r mapiau hanesyddol ar wefan y bardd.

Dyma’r gerdd yn ei chyfanrwydd:

’Steddfod y Lloeau

Mae ’na sibrwd yn y cloddiau

a sôn ar hyd y fro

bod y jamborî blynyddol

yn dod atom ni am dro;

mi wn y daw y byd a’i nain

i’r seiad fawr yng Nghae Llo Main.

 

Mi fydd pafiliwn Bodfel

yn destun chwedlau lu;

a thiroedd glas Boduan

y maes prydfertha’ fu;

Gwir yw’r straeon – daeth yr awr

A’n prifwyl ni yng Nghae Llo Mawr!

 

A phan ddaw’n amser pacio

tan gwmwl, fore Sul

a’i mwydro hi am adra

ar hyd y cefnffyrdd cul

go chwith fydd gorfod canu’n iach

i’r ’steddfod fu yng Nghae Llo Bach.