Fe fydd comisiwn newydd yn edrych ar sut y gall Cymru “ddod yn wlad annibynnol yn y degawd nesaf” meddai arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.

Heno (nos Fawrth, Tachwedd 12) mewn araith yn nhref Caernarfon, mae disgwyl iddo gyhoeddi mai’r cyn-Aelod Cynulliad Jocelyn Davies fydd yn cadeirio’r corff.

Mae Adam Price yn dadlau fod annibyniaeth “wedi symud o’r ymylon i mewn i brif ffrydiau gwleidyddiaeth Cymru” gan gyfeirio at y miloedd o bobol a fu’n gorymdeithio mewn ralïau annibyniaeth yng Nghaerdydd, Caernarfon a Merthyr Tudful yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

“Ein bwriad yn perswadio pobol Cymru fod annibyniaeth, nid yn unig yn ddymuniad, ond yn angenrheidiol er mwyn taclo ein problemau
a gwellau safonau byw.”